Tuesday, 28 March 2017



Helfa Wyau Pasg
Dydd Sadwrn  |  1af Ebrill |  14.00 – 16.00  |  Ysgol Gwaelod y Garth

Byddair GRhA yn ddiolchgar iawn pe byddech yn fodlon cyfrannur canlynol:
Meithrin
Twba Lwcus (wedi ei lapio gan nodi bachgen/merch/unrhyw, £1)
Derbyn
Poteli i’r stondin boteli (e.e. Champagne, sôs coch)
1C
Bagiau o losin (ee Haribos / Lolipops)
2C
Twba Lwcus (gweler uchod)
3C
Bagiau o losin (ee Haribos / Lolipops)
4C
Poteli ir stondin boteli (e.e. Champagne, sôs coch)
5C
Anrhegion bag parti (e.e.swigod, eitemau crefft)
6C
Poteli ir stondin boteli (e.e. Champagne, sôs coch)
1E
Twba Lwcus (gweler uchod)
2E
Anrhegion bag parti (e.e. Champagne, eitemau crefft)
Gofynnwn yn garedig i chi ach plentyn greu Jar neu Fyg Hwyliog iw anfon ir ysgol. I rieni newydd, jar wag neu fyg yw hwn wediu llenwi â theganau bach, creonau neu losin. Gellir ei addurno iw wneud yn ddeniadol.

Fe fydd cystadleuaeth Het Pasg yn ystod y ffair.  Os hoffech eich plentyn gymryd rhan bydd rhaid gwneud yr het o flaen llaw.  Fe fydd syniadau yn cael eu rhannu ar y dudalen Wyneblyfr.

Rydym yn chwilio am wyau bach plastig tebyg ir rhai syn dod â theganau bach a losin (nid wyau Kinder) i helpu addurnor neuadd ac iw ddefnyddio yn yr Helfa Wyau Pasg.  Os oes gennych unrhyw jariau jam, glan, heb labeli gallem ddefnyddior rhain i wneud Jariau Hwyliog ychwanegol.  Dewch a rhain ir ysgol os gwelwch yn dda.

Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn gallu dod â photel o un rhywbeth ar gyfer y stondin boteli.
Ar gyfer y stondinau gacennau plîs dewch â’ch cacennau.

Os oes unrhyw deganau medal gyda chi sydd mewn cyflwr da ac yn chwilio am gartref newydd, rydym yn edrych am gyfraniadau tuag at ein tombola  tedis.

Fe fydd raffl Pasg ad y diwrnod, felly os ydych yn gwybod am unrhyw fusnes lleol byddai’n fodlon rhoi wy Pasg i’r ysgol – gadewch i ni wybod.

Bydd yr arian a godir yn yr Helfa Wyau Pasg yn cael ei wario ar gyfer taflunydd i’r neuadd.

Gadewch eich rhoddion yn yr ysgol dim hwyrach na ddydd Iau, Mawrth 30ain os gwelwch yn dda.  Dylid gadael cacennau ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn.

Gofynnwn yn garedig i unrhyw wirfoddolwyr i help gyda pharatoadau a threfniadau'r ffair. Byddwn yn paratoi am y dydd mawr ar fore Dydd Gwener.  Yna, bydd unrhyw help i osod nwyddau a.y.b.. am 12.30yb ar y Dydd Sadwrn yn werthfawr iawn.  Os oes gennych awr i roi yna byddwn yn dra diolchgar.
Gofynnwn yn garedig hefyd i wirfoddolwyr ar gyfer stondinau ar y dydd.  Rhowch wybod os gallwch helpu mewn unrhyw ffordd os gwelwch yn dda.

DIOLCH YN FAWR I CHI AM EICH CEFNOGAETH BARHAOL
GOBEITHIWN EICH GWELD CHI YNO!!